PONT - partnerships tackling poverty together

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
Cymraeg (Welsh)English (United Kingdom)
Home

Gorolwg Plant

Mae llawer iawn o blant amddifad yn Uganda. Mae'r plant amddifad gan amla yn derbyn gofal gan y teulu estynedig neu gan bobl o'r un pentre, ac nid mewn cartrefi. Yn aml does gan y teuluoedd sy'n gofal am y plant amddifad ddim digon o arian i ofalu am eu plant eu hunain. Mewn achosion eraill mae perthnasau hŷn sydd heb fawr o incwm yn trio gofalu am y plant. Y canlyniad yw nad ydy plant amddifad yn gallu mynd i'r ysgol gan nad oes digon o arian i dalu ffioedd neu am wisgoedd ysgol.

goat

Nid dim ond plant amddifad sydd â'r anghenion hyn chwaith, ac felly rydym ni'n ceisio cefnogi plant anghenus yn Mbale ym mhob achos.

Mae PONT yn cefnogi cynllun cynhyrchu incwm ar gyfer teuluoedd sydd mewn angen. Mae gafr benywaidd yn cael ei darparu i'r teulu ynghyd â hyfforddiant bridio a gofalu am yr anifail. Trwy werthu rhai o'r geifr maen nhw wedi eu magu, mae'r teulu'n gallu codi arian i gwrdd ag anghenion y plant. Yn ogystal, mae llaeth gafr yn ffynhonnell protin bwysig. Rydym ni hefyd yn sicrhau fod gafr gwrywaidd gan bob pentref. Mae'r geifr sy'n cael eu prynu yn dod o rywogaethau sy'n cynhyrchu mwy o laeth a mwy o blant na'r rhywogaethau lleol.