Bwriad PONT fel elusen yw adeiladu model newydd o ddatblygu wedi ei selio ar gysylltiadau personol uniongyrchol rhwng cymunedau yma yng Nghymru a chymunedau yn Uganda. Mae'r gefeillio rhwng tref Pontypridd a bwrdeistref Rhondda Cynon Taf gyda thref ac ardal Mbale yn Uganda yn cynnig sylfaen i PONT allu gwireddu ei amcan. Ar hyn o bryd mae 13 categori gwahanol o bartneriaethau rhwng y ddwy gymuned, a phwrpas y rhain yw gwella bywydau pobl Mbale.
Y gobaith yw y gallwn ni gynyddu gallu partneriaid a mudiadau lleol yn Uganda i dderbyn a dosbarthu cymorth yn effeithiol. Yn ogystal rydym ni'n gallu elwa o dreftadaeth ddiwylliannol cyfoethog pobl Uganda, ynghyd a'u pwyslais ar deulu a chymuned. Mae'r bartneriaeth yn gyswllt sy'n rhedeg y ddwy ffordd, a hyd yn hyn mae ymhell dros 200 o ymweliadau wedi eu gwneud gan unigolion o Bontypridd a Rhondda Cynon Taf, ac mae llawer o grwpiau ac unigolion wedi ymweld o Uganda i Gymru.
Yn 2008 enillodd y bartneriaeth ddwy wobr Seren Aur y Cenhedloedd Unedig mewn cydnabyddiaeth o'i gwaith pwysig, un o'r unig ddau brosiect yn y byd i dderbyn y fath anrhydedd.




