PONT - partnerships tackling poverty together

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size
Cymraeg (Welsh)English (United Kingdom)
Home Gorolwg Amcanion

Amcanion

Trwy efeillio tref Pontypridd a bwrdeistref Rhondda Cynon Taf gyda thref ac ardal Mbale yn Uganda, bwriad PONT yw creu math newydd o waith datblygu. Mae cysylltu gweithwyr proffesiynol a mudiadau yn y ddwy gymuned yn ein galluogi i osgoi'r dull "top down" mae nifer o fudiadau dyngarol y gorllewin yn ei gymryd. Mae pobl Mbale yn cael eu galluogi i ddatblygu a gwireddu eu syniadau eu hunain ar sut i daclo tlodi, ac maen nhw'n derbyn cymorth, cefnogaeth a chyngor o'u partneriaid yng Nghymru. Ar yr un pryd mae pobl Uganda yn gallu dysgu llawer i ni am werthoedd sydd wedi mynd ar goll o'n bywydau prysur yn y gorllewin.

Mae cynllun PONT wedi datblygu yn gyflym iawn. Mae partneriaethau niferus wedi cael eu sefydlu sy'n gweithio ar draws pob agwedd o fywyd yma ac yn Mbale, o addysg i iechyd, y gwasanaeth ambiwlans i beirianneg. Ym mhob achos mae'r bartneriaeth wedi ei sefydlu ar unigolion a grwpiau o'r ddwy gymuned yn dod at ei gilydd, yn nodi anghenion ac yn gweithio gyda'i gilydd ar sut i gwrdd รข'r rhain y ffordd orau. Yn aml mae sgiliau a gwybodaeth gwirfoddolwyr o'r arfer gorau yn cael ei roi ar waith, ac mewn achosion eraill mae grwpiau o Gymru yn cefnogi eu partneriaid yn Uganda gyda deunyddiau ac adnoddau ariannol. Trwy gydol y flwyddyn rydym ni'n codi arian mewn amryw ffyrdd i gefnogi prosiectau unigol yn Mbale a gwaith PONT drwyddi draw.

Mae holl aelodau PONT yn wirfoddolwyr; mae'r holl gostau yn cael eu talu ganddyn nhw; mae pob ymweliad tramor yn cael ei ariannu ganddyn nhw, ac mae gweinyddiaeth a chyhoeddusrwydd yn cael ei wneud yn ddi gost. Mae hyn yn golygu fod yr holl arian sy'n cael ei godi yn cael ei drosglwyddo i'n partneriaid yn Affrica er mwyn iddo weithio i'r eithaf yn ymladd tlodi.